AS yn ymweld ag Ymlaen Llanelli
Cyn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli ar y 3ydd a’r 4ydd o Fawrth, galwodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru, heibio Ymlaen Llanelli i ddysgu mwy am y gwaith y mae’r grŵp yn ei wneud yn Llanelli i ddatblygu canol tref mwy bywiog.
Cefin yn dysgu am lwyddiant Banc Bwndl Babi
Ymwelodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru â Phlant Dewi yn ddiweddar i ddysgu mwy am eu Banc Bwndel Babi sy’n cefnogi rhieni newydd sy’n wynebu heriau megis caledi ariannol, iechyd meddwl a cham-drin domestig.
Lansio Grŵp Trawsbleidiol ar gwlân o Gymru
Daeth gwleidyddion o bedair plaid wleidyddol y Senedd at eu gilydd yn ddiweddar i ffurfio Grŵp Trawsbleidiol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo a thrafod gwlân o Gymru, a’r potensial enfawr sydd gan yr adnodd amryddawn hon.
Dros 1,000 yn gwrthwynebu peilonau Dyffryn Tywi
Mae deiseb a lansiwyd ynghynt yr wythnos hon yn gwrthwynebu cynlluniau arfaethedig ar gyfer peilonau ar hyd Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin wedi ennill dros 1,000 o lofnodion.
Galw am strategaeth i fynd i’r afael â’r ‘cylch dieflig’ o dlodi gwledig
Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi adnewyddu galwadau ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru.
ASau Plaid Cymru yn cwrdd â ffermwyr Seland Newydd i drafod pryderon 'Gwyrddgalchu'
(Uchod) Mabon ap Gwynfor AS, Cefin Campbell AS ac aelodau o'r grwp Fifty Shades of Green, Seland Newydd
Mae Aelodau Senedd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor a Cefin Campbell wedi cwrdd â grŵp o ffermwyr defaid a chig eidion o Seland Newydd i drafod pryderon ynglŷn â phlannu coetir ar dir fferm ffrwythlon gan gwmnïau rhyngwladol.
Galw ar weithredu am lifogydd ger Trimsaran
Bu i Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru gwrdd â thrigolion yn ardal Trimsaran i drafod pryderon ynghylch llifogydd rheolaidd yn yr ardal sy’n achosi gryn bryder i drigolion a busnesau lleol.
Plaid yn galw am strategaeth i gefnogi sector pysgota “cynaliadwy” a “hyfyw” yng Nghymru
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth newydd i gefnogi'r diwydiant pysgota yng Nghymru, meddai Plaid Cymru.
Cefin Campbell yn galw ar y Prif Weinidog i flaenoriaethu adferiad canol trefi gwledig
Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog i flaenoriaethu adfywio trefi gwledig.
£1.3m o gronfeydd plannu coed wedi mynd i ymgeiswyr tu allan i Gymru
Mae gwybodaeth a welwyd gan Blaid Cymru yn dangos bod £1.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed wedi mynd i ymgeiswyr y tu allan i Gymru.