Argyfwng Offthalmoleg Gorllewin Cymru fel 1 o bob 2 glaf sydd mewn perygl o golli golwg na ellir ei wrthdroi

Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi codi braw wrth i ffigyrau newydd a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ddangos argyfwng cynyddol i apwyntiadau Offthalmoleg o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae'r ffigurau, a gyhoeddwyd y mis hwn, yn dangos bod un o bob dau glaf offthalmoleg risg uchel ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn perygl o 'niwed anghildroadwy neu ganlyniad niweidiol sylweddol' o ganlyniad i'r amser targed yn cael ei golli ar gyfer eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.

Ym mis Mai 2023, roedd 50.3% o gleifion ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda a ystyrir yn 'Ffactor Risg Iechyd R1' yn aros y tu hwnt i'r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad cleifion allanol - sy'n gyfystyr â bron i 8,000 o gleifion ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Ledled Cymru, roedd 52.5% o gleifion a ystyrir yn 'Ffactor Risg Iechyd R1' yn aros y tu hwnt i'r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad cleifion allanol - cynnydd o 1,300 o'r mis blaenorol.

Wrth ymateb i'r ffigurau brawychus, dywedodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:

"Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu tuedd gynyddol rwy'n ei weld yn fy mewnflwch - gyda mwy a mwy o etholwyr yn cysylltu â mi i fynegi eu rhwystredigaeth a'u pryder difrifol ynghylch cyflwr y ddarpariaeth offthalmoleg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'n fwyfwy amlwg nad yw gwasanaethau Offthalmoleg wedi gallu gwella o'r pandemig, ac yn destun pryder gallai hyn gael effaith ddinistriol ar ormod o gleifion. Yn syml, nid yw'n ddigon da bod mwy nag un o bob dau glaf mewn perygl o golli golwg na ellir ei wrthdroi oherwydd na all Llywodraeth Cymru gael gafael ar amseroedd aros.

Mewn ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun ar waith i sicrhau bod y cleifion gofal llygaid mwyaf brys yn cael eu gweld o fewn amserlenni derbyniol.

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Er mwyn dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â gofal llygaid yng Nghymru, rhaid i ni weld cynllun gan Lywodraeth Cymru ar sut maen nhw'n bwriadu amgyffred yr achosion mwyaf brys ar y rhestrau aros hyn.

"Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith i sicrhau bod targedau'n gyrru'r ymddygiad cywir, bod targedau'n cael eu monitro'n effeithiol, bod gan fyrddau iechyd yr adnodd i allu cyflawni i dargedu, a bod camau adfer yn cael eu cymryd cyn gynted â phosibl i ofalu am y cleifion sydd wedi cael eu siomi gan y system. Mae angen i hyn gynnwys plymio'n ddwfn i'r mesurau, a'r prosesau presennol, sy'n methu mwy na hanner y cleifion gofal llygaid risg uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2023-08-30 10:31:24 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd