Am Cefin

cefin-about.png

Cefin Campbell yw Aelod Senedd Plaid Cymru dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae'n Aelod Dynodedig fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Ar ôl gadael y brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi fel darlithydd Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru – erbyn hyn mae 22 o Fentrau Iaith ledled Cymru. Bu’n aelod o Awdurdod S4C a Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr yn ogystal â gweithredu fel ymgynghorydd iaith i Bòrd na Gàidhlig  yn yr Alban. Bu hefyd yn arolygydd trwyddedig i Estyn ac yn gadeirydd ar nifer o fyrddau llywodraethol ysgolion. Yn ystod ei gyfnod fel aelod o Gabinet Cyngor Sir Gâr fe gadeiriodd grŵp traws bleidiol a ddatblygodd strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cyngor, strategaeth i adfywio Sir Gâr wledig, cynllun arloesol i daclo tlodi, cynllun gweithredu i sicrhau bod Cyngor Sir Gâr yn cyrraedd net-sero carbon erbyn 2035 a llunio adroddiad i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu. Yn ei amser hamdden mae’n hoffi gwylio’r Sgarlets, cefnogi tîm pêl droed Abertawe, pysgota a charafanio!

Mae’n briod a ganddo dair o ferched. Mae’r hynaf yn newyddiadurwraig, yr ail yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac yn gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a’r ifancaf yn astudio ar gyfer ei lefel A. Mae’n byw yn Gelli Aur yn Nyffryn Tywi ond cafodd ei eni a’i fagu yn Nyffryn Aman. Roedd llawer o deulu ei dad yn lowyr, gan gynnwys ei dad-cu ond ffermwyr oedd bron y cyfan o deulu ei fam. Mae’n teimlo’n freintiedig ei fod wedi etifeddu traddodiadau dau o brif ddiwydiannau Cymru!

Ar ôl gorffen ei MA cafodd Cefin Campbell ei benodi fel darlithydd Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach fel darlithydd mewn Cymraeg, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion, Prifysgol Caerdydd. Gadawodd y sector addysg uwch yn 1991 i sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru, sef Menter Cwm Gwendraeth cyn symud ymlaen sefydlu Mentrau Iaith ym mhob cwr o Cymru. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghorol o’r enw Sbectrwm oedd yn arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant gan weithio i rai o gyrff mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni tan iddo gael ei ethol i chweched Senedd Cymru ym mis Mai 2021.

Bu Cefin yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Gâr rhwng 2012-22 ac yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Gâr gyda chyfrifoldeb am Faterion Gwledig a Chymunedau rhwng 2017-21. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2021 fel aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Am fwy o wybodaeth am rol Cefin Campbell fel Aelod Dynodedig, cliciwch ar y linc isod:

https://gov.wales/co-operation-agreement-designated-members

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd