Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi mynegi pryderon yn dilyn y cyhoeddiad bod y gweithredwyr rhwydwaith bandllydan amgen, Broadway Partners, wedi galw eu gweinyddwyr.
Roedd y cwmni wedi bod yn awyddus i ddatblygu rhwydwaith Ffibr i'r Adeilad eu hunain ar draws cymunedau gwledig canolbarth a gorllewin Cymru, gan ddefnyddio Cynllun Talebau Gigabeit Llywodraeth y DU i gysylltu tua 11,500 o adeiladau ar draws Ceredigion a Phowys â’u rhwydwaith ffibr llawn newydd. Roedd gwaith eisoes wedi ei ddechrau gan y cwmni ledled y gorllewin, gan gynnwys ardaloedd megis Dyffryn Cennen a Llanfihangel Aberbythych yn Sir Gaerfyrddin a Cheulan a Maesmawr a Melindwr yng ngogledd Ngheredigion.
Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod y cwmni wedi galw eu gweinyddwyr, mae gryn ansicr am sefyllfa’r busnes, a dyfodol eu prosiectau ledled canolbarth a gorllewin Cymru.
Ymatebodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion i’r newyddion gyda phryder, gan ddatgan:
“Mae hwn yn ddatblygiad siomedig, ac yn un fydd yn achosi cryn bryder i nifer yng ngogledd Ceredigion a oedd wedi gweithio gyda’r cwmni i ddatblygu cynigion band eang ffibr ar gyfer eu cymunedau lleol. Byddaf yn codi’r mater gyda Llywodraeth y DU fel mater o frys fel nad yw’r cynnydd a wnaed ar y cynlluniau hyn yn cael ei golli.
“Mae model cyllido presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud hi’n anodd i ddarparwyr rhwydwaith amgen lenwi’r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, byddai’n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd i gefnogi’r cymunedau hyn, ac yn benodol helpu i nodi cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi’u gadael heb eu gorffen. Mae’r cymunedau hyn eisoes wedi aros yn llawer rhy hir am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw’r cynlluniau’n cael eu gohirio ymhellach.”
Cafodd ei sefyllfa ei chodi yn uniongyrchol yn y Senedd gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, gan alw am ddatganiad brys gan y Llywodraeth parthed y datblygiad. Nododd Mr Campbell:
“Gwyddom fod cyflymder band eang yn parhau i fod yn annigonol mewn cymaint o ardaloedd gwledig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru - gan achosi rhwystredigaeth ac aflonyddwch sylweddol.
Roedd gwaith Broadway, a’i ryngweithio agos â chymunedau lleol ledled y rhanbarth yn lygedyn o obaith i nifer - ond mae’r ansicrwydd hyn ynghylch dyfodol y busnes a’u prosiectau bellach yn bryder mawr. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraeth San Steffan, yn adolygu’r sefyllfa hon ac yn cefnogi’r cymunedau yr effeithir ar frys.”
Ychwanegodd Adam Price, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:
“Mae hyn yn newyddion sy’n peri mwy o bryder eto i’m hetholwyr sy’n parhau i’w chael yn anodd cael mynediad at fand eang dibynadwy. Mae nifer o gymunedau yn fy etholaeth i wedi aros yn lawer rhy hir i dderbyn y gwasanaeth hwn, ac mae’r datblygiad hwn yn peri rhwystr arall.
Mae cryn dipyn o ymdrech wedi’i wneud i’r cynllun hwn yn barod, a byddwn nawr yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau nad yw’r ymdrech hon yn mynd yn wastraff.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter