Cyn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli ar y 3ydd a’r 4ydd o Fawrth, galwodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru, heibio Ymlaen Llanelli i ddysgu mwy am y gwaith y mae’r grŵp yn ei wneud yn Llanelli i ddatblygu canol tref mwy bywiog.
Sefydlwyd Ymlaen Llanelli yn 2015, fel rhan o Ardal Gwella Busnes (BID) – a arweinir gan, ac a ariennir gan fusnesau lleol yn y dref. Nod y BID hwn yw gwella Llanelli fel lle i weithio, byw ac ymweld drwy ddarparu rhaglen o wasanaethau a digwyddiadau.
Ers ei sefydlu, mae Llanelli Ymlaen yn cynnal digwyddiadau rhad ac am ddim yn rheolaidd yng nghanol y dref, o wyliau blynyddol enfawr i bartïon stryd cymunedol, sinemâu awyr agored a digwyddiadau i blant. Mae’r digwyddiadau’n denu miloedd o ymwelwyr i’r dref, ac mae ei llwyddiannau diweddar yn cynnwys Gŵyl 80au Llanelli, Gŵyl Vintage Llanelli, a’u digwyddiad mwyaf, Gŵyl Bwyd a Diod Llanelli.
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau, mae Ymlaen Llanelli hefyd wedi arwain ar fentrau sy’n gwella mynediad ac yn gwella profiad canol y dref – gan gynnwys diwrnodau parcio am ddim, basgedi blodau crog, a gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i liniaru rhai problemau yng nghanol y dref.
Wrth wneud sylw yn dilyn ei ymweliad, dywedodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:
“Croesawais y cyfle i gwrdd ag Ymlaen Llanelli a dysgu mwy am eu prosiectau a’u digwyddiadau gwych sy’n helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref a rhoi’r cyfle i fusnesau gryfhau eu sylfaen cwsmeriaid.
Gwyddom fod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i ganol ein trefi – o’r pandemig Covid-19 i’r argyfwng costau byw. Ni ellir diystyru’r gwaith gwych y mae Ymlaen Llanelli wedi bod yn ei wneud yng ngoleuni’r heriau hyn ac mae’n rhoi hwb ariannol pwysig i ganol y dref, yn ogystal â chynnig brwdfrydedd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd”.
I ddarganfod mwy am Ymlaen Llanelli a'u gwaith yng nghanol y dref, ewch i'w gwefan www.ymlaenllanelli.com.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter