Ymwelodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru â Phlant Dewi yn ddiweddar i ddysgu mwy am eu Banc Bwndel Babi sy’n cefnogi rhieni newydd sy’n wynebu heriau megis caledi ariannol, iechyd meddwl a cham-drin domestig.
Sefydlwyd y Banc Bwndel Babi yn 2016, ac mae’n gweithio ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gydag eitemau ail law newydd ac o ansawdd da – gan gynnwys dillad, blancedi, cotiau a bygis – yn cael eu rhoi i’r prosiect a’u darparu i deuluoedd mewn angen naill ai drwy atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am y cynllun wedi mynd o nerth i nerth, ac yn 2022, wrth i’r argyfwng costau byw ddwysau, darparodd Plant Dewi 204 o fwndeli i deuluoedd ar draws de orllewin Cymru.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun, gyda chymorth sylfaen gref o wirfoddolwyr, mae Plant Dewi wedi mynd ymlaen i ddatblygu hybiau Banc Bwndeli Babi mewn 5 ardal ar draws gorllewin Cymru – Aberystwyth, Caerfyrddin, Cross Hands, Steynton a Doc Penfro – lle gall rhoddwyr ollwng eu heitemau a lle gall atgyfeirwyr godi bwndeli.
Wrth siarad yn dilyn ei ymweliad â Phlant Dewi, dywedodd Cefin Campbell MS:
“Cefais fy syfrdanu gan y gwaith gwych y mae Plant Dewi a’r tîm o wirfoddolwyr gweithgar yn ei wneud drwy’r cynllun Banc Bwndel Babi i gefnogi teuluoedd ar draws de orllewin Cymru.
Yn anffodus, gwyddom fod tlodi plant yn gyffredin mewn llawer o gymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru – gydag amcangyfrifon diweddar yn dangos bod dros draean o blant Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi. Mae costau byw cynyddol yn debygol o weld mwy o aelwydydd yn wynebu caledi ariannol ac ansicrwydd, ac felly ni ellir diystyru’r achubiaeth y mae Plant Dewi yn ei rhoi i gynifer o deuluoedd ar draws de orllewin Cymru.”
Ychwanegodd Catrin Eldred, Rheolwr Plant Dewi:
“Roeddwn yn falch iawn o groesawu Cefin Campbell i Blant Dewi a chael cyfle i drafod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud yn cefnogi teuluoedd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro trwy brosiect Banc Bwndel Babanod.
Wrth i’r argyfwng costau byw ddwysau, rydym yn gweld galw cynyddol am gefnogaeth a chymorth ar draws gorllewin Cymru gan rieni newydd sy’n wynebu caledi ac ansicrwydd, ac roedd yn ddefnyddiol tynnu sylw Cefin at yr heriau hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Banc Bwndel Babanod a ddarperir gan Plant Dewi, a sut i gyfrannu neu elwa o'r prosiect, e-bostiwch [email protected] - neu cysylltwch â Plant Dewi ar 01267 221551.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter