Mae deiseb yn annog Llywodraeth Cymru i brynu Sycharth, cartref hynafiaethol Owain Glyndŵr yn Sir Drefaldwyn wedi cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 13 Medi).
Yn gynharach eleni, cafodd deiseb dros 10,000 o lofnodion - gan groesi'r trothwy angenrheidiol ar gyfer dadl yn y Senedd. Lansiwyd y ddeiseb gan Elfed Wyn ap Elwyn yn galw am brynu'r safle er mwyn ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn swatio yng nghefn gwlad gogledd Sir Drefaldwyn, i'r de o bentref Llansilin, dyma gartref maenorol tywysogion Powys Fadog a'r cartref, ac yn fwy na thebyg man geni, Owain Glyndŵr. Dyma'r Cymro brodorol olaf i ddal y teitl Tywysog Cymru, ag arweiniodd Ryfel Annibyniaeth Cymru 15 mlynedd o hyd yn ystod diwedd yr Oesoedd Canol.
Llosgwyd y safle, a gynhwyswyd yng ngherdd Iolo Goch, 'Llys Owain Glyndŵr', i'r llawr ym mis Mai 1403 gan y tywysog Seisnig, Henry, yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr.
Mae Sycharth yn heneb gofrestredig a ddiogelir o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979, ac ar hyn o bryd mewn perchnogaeth breifat gyda mynediad i ymwelwyr drwy gytundeb ag Ystâd Llangedwyn. Yn y gorffennol mae'r safle wedi derbyn arian gan wasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw.
Fodd bynnag, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld mwy o feirniadaeth o'r cyflwr a'r diffyg dehongliad hanesyddol ar y safle. Yn gynharach eleni, galwodd Penri Roberts, sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn, am feddiant cyhoeddus o Sycharth gan Lywodraeth Cymru.
Un o gefnogwyr amlwg amcanion y ddeiseb oedd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a siaradodd o blaid y ddeiseb yn ystod y ddadl.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Campbell:
"Mae Sycharth wedi parhau i gyfareddu ac ysbrydoli pobl Cymru ar hyd y canrifoedd - fel sy'n cael ei adlewyrchu gan y gefnogaeth sylweddol y mae'r ddeiseb hon wedi'i chael dros y misoedd diwethaf. Yn wir, mae'r adfail hwn a anwybyddir yn aml yn y gornel eithaf hwn o Sir Drefaldwyn yr un mor bwysig – os nad hyd yn oed yn fwy felly - i hanes ein cenedl fel cadarnleoedd nerthol Cestyll Caernarfon, Conwy a Harlech.
"Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, sicrhaodd Plaid Cymru y byddai hanes Cymru yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ysgolion yng Nghymru am y tro cyntaf mewn cof byw. Fodd bynnag, os ydym o ddifrif ynglŷn â hyrwyddo ein hanes a'n treftadaeth, mae'n hanfodol bod safleoedd o arwyddocâd hanesyddol enfawr, fel Sycharth, yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo'n bwrpasol.
Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ffafriol ar y ddeiseb hon, ac yn y cyfamser yn gweithio i wella hygyrchedd a dehongliad hanesyddol Sycharth er budd cenedlaethau'r dyfodol."
Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Cadw wedi cymryd perchnogaeth o Lys Rhosyr, sydd wedi'i leoli ger Niwbwrch, ar Ynys Môn. Llys tywysogion canoloesol Gwynedd, a fu'n rheoli Cymru ar ôl i'r Rhufeiniaid gael ei brynu am £17,000 ac sydd wedi ei ddynodi'n heneb gofrestredig.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter