Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y cynnydd ar orsaf reilffordd arfaethedig Sanclêr yn parhau i fod yn rhwystredig o araf, yn dilyn cwestiwn yn y Senedd gan Cefin Campbell AS Plaid Cymru.
Caeodd gorsaf Sanclêr ym 1964, ac mae ymdrechion i'w hail-agor wedi bod yn mynd ymlaen ers y 1970au.
Roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £4.7 miliwn tuag at orsaf newydd. Gwnaed gwaith daear ac arolygu ar y safle rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2022 i ddechrau'r gwaith o uwchraddio ac ailagor yr orsaf.
Fodd bynnag, mae wedi dod i'r amlwg dros y misoedd diwethaf bod ansicrwydd yn parhau dros y cyllid y tu ôl i'r prosiect - gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cadarnhau bod costau'r wythnos hon wedi cynyddu'n sylweddol.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Cefin Campbell yn y Senedd, cadarnhaodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod amcangyfrif o gost cynnig Sanclêr wedi:
"Mae wedi cynyddu'n sylweddol, fel y mae pob prosiect seilwaith yn wir, ac mae ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri 8% mewn termau real gan y Llywodraeth Geidwadol fel rhan o'r ymgyrch cyni o'u dewis. Yn y tymor byr, mae gennym fwlch ariannol heb ffordd glir iawn o fynd i'r afael ag ef."
Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ynglŷn â'r orsaf, fel rhan o gynllunio'r Bwrdd Iechyd ar gyfer ysbyty newydd yng Ngorllewin Cymru.
Yn ei gwestiwn, roedd Mr Campbell wedi amlinellu'r manteision economaidd ac amgylcheddol y gallai'r orsaf yn Sanclêr eu darparu i'r dref a'r ardal a mynegodd bryderon am yr oedi i'r prosiect.
Dywedodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:
"Does dim gwadu y byddai gorsaf newydd yn Sanclêr yn darparu cymaint o fanteision i'r dref a'r ardal - yn ogystal â chyrraedd targedau trafnidiaeth weithredol a datgarboneiddio ehangach Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mae'n fwyfwy amlwg bod oedi ac ansicrwydd cynyddol ynghylch ailddatblygu'r orsaf, a chroesais y cyfle i bwyso'r Dirprwy Weinidog ymhellach ar y pwynt hwn.
Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid i sicrhau bod y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn yn cael ei gyflawni a'i gyflwyno'n fuan."
Cafodd deiseb flaenorol a lansiwyd yn 2020 o blaid ailagor yr orsaf yn Sanclêr dros 1,200 o lofnodwyr.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter