Daeth gwleidyddion o bedair plaid wleidyddol y Senedd at eu gilydd yn ddiweddar i ffurfio Grŵp Trawsbleidiol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo a thrafod gwlân o Gymru, a’r potensial enfawr sydd gan yr adnodd amryddawn hon.
Mynychodd nifer o wleidyddion y cyfarfod cyntaf – gan gynnwys llefarwyr materion gwledig Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, Mabon ap Gwynfor AS a Samuel Kurtz AS, ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS. Yn ystod y cyfarfod etholwyd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol.
Wrth siarad wedi ei benodi’n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, dywedodd Cefin Campbell AS:
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd cyntaf ar y Grŵp Trawsbleidiol ar wlân o Gymru. Mae’r adnodd amryddawn hwn wedi’i blethu mor agos â hunaniaeth a hanes Cymru – o’i rôl mewn amaethyddiaeth i ddiwydiant gwlân hanesyddol Cymru.
Does dim gwadu bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i’r sector gwlân, ond does dim dwywaith bod ganddo botensial enfawr fel ysgogiad i’n heconomïau gwledig, ac o ran gwireddu uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd a newid hinsawdd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn y Senedd a’r sector gwlân ehangach i ddeall a hyrwyddo’r cyfleoedd hyn yn well.”
Bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn cyfarfod tua unwaith bob tymor y Senedd, gyda Chynghrair Gwlân Cymru yn gyfrifol am ysgrifennyddiaeth y grŵp.
Dywedodd Jacqui Pearce, Arweinydd Strategol Cynghrair Wlân Cymru:
“Bydd sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn helpu i sicrhau y bydd buddiannau gwlân Cymru wrth galon gwleidyddiaeth Cymru yn y Senedd.
Mae gan Gymru’r potensial i fod yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant gwlân. Mae gennym dros 3,000 o ffermwyr defaid a dros 70 o fridiau o ddefaid – ac mae ein bryniau Cymreig yn cynhyrchu 3 gwaith yn fwy o wlân y flwyddyn nag UDA a Chanada gyda’i gilydd. Fodd bynnag, mae’r diwydiant wedi bod yn dirywio ers tro, gyda rhyfeddodau gwlân Cymreig yn cael eu camddeall, yn cael eu tanddefnyddio a’u tanbrisio.
Edrychaf ymlaen at y cyfraniad y gall y Grŵp hwn ei wneud i gefnogi ymdrechion pellach i hyrwyddo gwlân Cymreig.”
Wrth gloi, dywedodd Samuel Kurtz AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Faterion Gwledig a’r Gymraeg:
“Rwy’n croesawu sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol ar wlân o Gymru ac yn edrych ymlaen at y cyfraniad y gall ei wneud wrth weithio gyda diwydiant gwlân Cymru, y sector amaethyddiaeth a rhanddeiliaid eraill i helpu i sicrhau y gall yr adnodd Cymreig rhyfeddol hwn gyrraedd ei lawn botensial.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter