Martiau yn bwysig er lles iechyd meddwl ffermwyr, yn ôl Plaid Cymru

Mae Cefin Campbell AS, Llefarydd Materion Gwledig Plaid Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth i fartiau amaethyddol – a hynny er lles iechyd meddwl ffermwyr.

Mae’r aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod y mart yn cynnig cyfleodd i ffermwyr fynd rhywle i gymdeithasu, ac yn sgil hynny’n fuddiol i Iechyd meddwl gweithwyr amaeth.

Fe gododd Cefin Campbell yr achos gyda’r Gweinidog materion Gwledig, Lesley Griffiths ar lawr y siambr heddiw (Hydref 13).

“Mae 84% o ffermwyr dan 40 oed yn dweud mai materion iechyd meddwl yw’r her anweledig fwyaf i ffermio yng Nghymru,” meddai.

“Yn ôl eu natur mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd diffyg cyfleoedd pobl i gwrdd o ddydd i ddydd mae tuedd aml i bobl ddioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl yn deillio o hynny.”

“Mae adroddiad sydd wedi ei hysgrifennu gan Gronfa Cefn Gwald Tywysog Cymru eisoes wedi amlinellu sut y gall martiau sicrhau dyfodol llewyrchus i gymunedau a ffermwyr fel man mae pobl yn gallu mynd i gymdeithasu.”

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae 133 o bobl yn gweithio yn y sector amaeth yn marw trwy hunanladdiad yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Wrth ymateb fe wnaeth y gweinidog gydnabod fod y pandemig wedi uwcholeuo problemau Iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

“Mae cymunedau Cefn Gwlad yn gymunedau agos tu hwnt, ac mae’r pandemig wedi uwcholeuo’r broblem yn enwedig yn ystod y pandmeig,” meddai Lesley Griffiths AS.

“Mae arweinwyr pob un elusen amaeth wedi dweud wrthyf fod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ffermwyr.

“Ac eisoes mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi i’w rhoi i wasanaethau fel DPJ yn benodol hefyd ar gyfer martiau.

“Maen nhw wedi edrych ar ffyrdd i gynnig hyfforddiant i adnabod symptomau Iechyd meddwl mewn lleoliadau fel marchnadoedd amaeth.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2021-11-01 20:59:05 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd