ASau Plaid Cymru yn cwrdd â ffermwyr Seland Newydd i drafod pryderon 'Gwyrddgalchu'

(Uchod) Mabon ap Gwynfor AS, Cefin Campbell AS ac aelodau o'r grwp Fifty Shades of Green, Seland Newydd


 

Mae Aelodau Senedd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor a Cefin Campbell wedi cwrdd â grŵp o ffermwyr defaid a chig eidion o Seland Newydd i drafod pryderon ynglŷn â phlannu coetir ar dir fferm ffrwythlon gan gwmnïau rhyngwladol.

Roedd y ffermwyr yn gynrychiolwyr o ‘Fifty Shades of Green’ - grŵp lobïo gwirfoddol a sefydlwyd i wrthwynebu a chodi ymwybyddiaeth am y miloedd o hectarau o dir fferm yn Seland Newydd sy’n cael eu prynu gan fusnesau rhyngwladol a hapfasnachwyr carbon ar gyfer plannu coetir at ddibenion gwrthbwyso carbon.

Roedd y rhith-gyfarfod yn gyfle i ddysgu am y sefyllfa yn Seland Newydd - gan gyfateb â’r sefyllfa yng Nghymru, lle mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio’n ddiweddar bod ffermydd Cymreig cyfan yn cael eu prynu gan gwmnïau allanol ar gyfer plannu coed bron yn wythnosol.

Dadleuodd y grŵp fod cymhellion llywodraeth Seland Newydd i blannu coed er mwyn gwrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr a chwrdd â thargedau newid hinsawdd, wedi gogwyddo’r farchnad yn rhy bell o blaid buddsoddwyr coedwigaeth ddomestig a thramor - gan niweidio cymunedau gwledig, yr amgylchedd a dulliau cynhyrchu bwyd.

Nododd y grŵp fod tuedd gynyddol o goedwigo wedi gweld prisiau tir fferm yn codi’n aruthrol - gyda’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn cael eu prisio allan o’r farchnad, a chynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn debygol o gael ei rwystro.

Dywedodd Gwyn Jones, llefarydd cyfryngau Fifty Shades of Green:

“Croesawom y cyfle i gwrdd â Mabon a Cefin a rhannu’r profiadau a wynebir gan gymunedau ar draws Seland Newydd o dir fferm ffrwythlon yn cael ei brynu gan gwmnïau tramor a hapfasnachwyr carbon ar gyfer coedwigaeth.

Yn Seland Newydd, mae ein ffermydd mynydd yn prysur ddatblygu’n oen aberthol yn ymdrech ein gwlad i reoli newid hinsawdd. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith andwyol ar ein cymunedau gwledig, natur, ac yn hollbwysig dulliau cynhyrchu bwyd - ac yn deal bod math bryderon yn cael eu hailadrodd fwyfwy yng Nghymru, a gwledydd eraill ar draws y byd.

Mae plannu coetir o’r fath yn groes i Gytundeb Hinsawdd Paris sy’n cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn hollbwysig, ac ar ben hynny yn tanseilio’r gwaith hanfodol y mae ffermwyr eisoes yn ei wneud i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a chynnal yr amgylchedd.”

 Yng Nghymru, canfu ymchwil blaenorol gan Blaid Cymru, ers 2015, fod dros £1.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed wedi mynd i ymgeiswyr y tu allan i Gymru. Gyda sylw cynyddol yn y cyfryngau a phryder ymysg cyhoedd, mae galwadau cynyddol am fwy o fesurau i fynd i’r afael â’r duedd hon - ac mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau ymrwymiad i archwilio ffyrdd o ddenu buddsoddiad ar gyfer creu coetir sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd a llefarydd Plaid Cymru dros Amaethyddiaeth, Materion Gwledig, Tai a Chynllunio:

“Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â ffermwyr o Seland Newydd a dysgu mwy am yr heriau y mae’r sector amaeth a chymunedau gwledig yn eu hwynebu oherwydd coedwigo cyffredinol.

Mae’r tebygrwydd cynyddol rhwng Seland Newydd a’r sefyllfa sy’n datblygu mewn cymunedau gwledig ledled Cymru yn frawychus, ac er bod  ‘gwyrddgalchu’ o’r fath yn lleddfu cydwybod cwmnïau rhyngwladol sy’n ymwybodol o’u hoblygiadau newid hinsawdd, mae’n niweidio union wead ein cymunedau amaethyddol, gan fygwth ein trawsnewid yn economi echdynnol.

Er ei bod yn hollbwysig ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd, mae gwneud hynny mewn ffordd gytbwys a chynaliadwy yn hollbwysig - gan sicrhau dull gweithredu sy’n darparu’r goeden iawn, yn y lle iawn, am y rheswm iawn.”

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:

“Roedd hi’n ddefnyddiol iawn cyfarfod â ffermwyr o Seland Newydd a dysgu mwy am eu profiadau hwy mewn perthynas â thir fferm ffrwythlon yn cael ei golli at ddibenion plannu coed.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig, rwyf wedi cyfarfod â chymunedau ar draws Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sydd wedi mynegi pryderon ynghylch y ‘gwyrddgalchu’ hwn gan gwmnïau rhyngwladol, a’r effaith andwyol y mae hyn yn debygol o’i chael ar ein ffermwyr, cynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig.

Un o’r pwyntiau amlycaf a wnaed gan ffermwyr Seland Newydd oedd mai gwerth cyfyngedig oedd i’r dull plannu coed o ran dal carbon gan mai dim ond i’r cylchdro cyntaf o goed oedd â chyfnod amser o tua 30 mlynedd y gellid ei glymu. Roeddent yn credu ei fod nid yn unig yn methu â gwneud unrhyw synnwyr busnes hirdymor, mae hefyd yn cloi tir ac yn dileu bywoliaeth cenedlaethau o ffermwyr yn y dyfodol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2022-01-18 12:18:37 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd