Bu i Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru gwrdd â thrigolion yn ardal Trimsaran i drafod pryderon ynghylch llifogydd rheolaidd yn yr ardal sy’n achosi gryn bryder i drigolion a busnesau lleol.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae Ffordd Capel Teilo rhwng Trimsaran a Chydweli wedi profi cynnydd mewn llifogydd sylweddol o’r Gwendraeth Fawr gerllaw - gan yn aml adael y ffordd dan ddŵr - gan rwystro mynediad i eiddo a busnesau cyfagos.
Ynghyd â Chynghorydd Sir Trimsaran, Kim Broom, bu i Mr Campbell ymweld â'r ardal yn ddiweddar i drafod pryderon ynghylch y llifogydd gyda busnesau a thrigolion lleol. Yn ôl y preswylwyr, mae'r ffordd wedi cael ei gorlifo o leiaf 20 gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig - gan achosi problemau mynediad sylweddol sydd wedi bod yn niweidiol i fusnesau lleol, ac wedi gadael sawl cerbyd wedi'u ddifrodi. Cyfeiriwyd hefyd at ddigwyddiad blaenorol a welwyd ambiwlans a oedd yn cludo claf oedrannus yn dod yn sownd yn y dŵr llifogydd.
Yn flaenorol, amlygwyd pryderon yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2020 gan gyn-aelod Plaid Cymru, Helen Mary Jones, a bwysodd am ddull aml-asiantaeth o fynd i’r afael â’r broblem reolaidd. Gyda'r pandemig wedi amharu ar unrhyw obaith am gyfarfod safle, mae Mr Campbell bellach wedi galw eto ar yr awdurdodau i fynd i’r afael â’r sefyllfa ar frys.
Dywedodd Cefin Campbell AS:
“Mae’n amlwg o siarad â thrigolion a busnesau lleol bod y sefyllfa ynglŷn â’r llifogydd ar Ffordd Capel Teilo yn gwaethygu. Mae’r digwyddiadau cynyddol o lifogydd - tua 20 gwaith eleni yn unig - yn cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol, yn ogystal ag achosi pryder cynyddol i les a diogelwch trigolion lleol.
Rwyf wedi ysgrifennu at y rhanddeiliaid dan sylw yn eu hannog i weithredu dull amlasiantaethol o ymchwilio i'r sefyllfa, yn y gobaith y gellir cymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r achlysuron hyn a'r pryderon real iawn y mae preswylwyr yn eu hwynebu yn llawer rhy aml. "
Ychwanegodd Kim Broom, Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Drimsaran:
“Rwy’n ddiolchgar i Cefin Campbell AS am gwrdd â thrigolion a busnesau lleol i drafod y sefyllfa. Yn anffodus, nid ydym yn sôn am lifogydd achlysurol ar y ffyrdd - ond yn hytrach llifogydd sy'n prysur ddod yn ddigwyddiad cyffredin.
Mae'r ffordd yn aml dan ddŵr am sawl diwrnod, ac ar brydiau gellir gadael preswylwyr wedi’u hynysu yn llwyr - gan godi pryderon sylweddol yn amlwg am eu lles a'u diogelwch personol. Byddaf yn parhau i weithio gyda Mr Campbell a thrigolion lleol yn y gobaith y gall yr asiantaethau cyfrifol gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter