Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi adnewyddu galwadau ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru.
Daw galwadau Mr Campbell yn dilyn ffigurau diweddar, ar ran y Glymblaid Dileu Tlodi Plant yn dangos bod gan ranbarth gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru'r cyfraddau tlodi plant ymysg yr uchaf yng Nghymru gyfan.
Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd fel rhan o brosiect ymchwil gan Brifysgol Loughborough, fod dros draean o blant yng Ngheredigion, Sir Gâr a Phowys yn byw mewn tlodi - gyda’r ffigwr ar ei uchaf yn Sir Benfro, gyda 35.5% o blant yn byw mewn tlodi.
Wrth herio’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i ymrwymo i ddatblygu strategaeth â ffocws ar fynd i’r afael â thlodi gwledig, tynnodd Mr Campbell sylw hefyd at heriau ehangach o fewn cymunedau gwledig sydd wedi sefydlu "cylch dieflig o dlodi gwledig" dros gyfnod o flynyddoedd a chenedlaethau lawer.
Dywedodd Cefin Campbell AS:
“Mae gwir raddfa tlodi yng nghefn gwlad Cymru yn aml yn cael ei guddio gan gyfoeth cymharol rhai ardaloedd gwledig.
Mae ein cymunedau cefn gwlad yn wynebu nifer o ffactorau unigryw sydd wedi cyfrannu tuag at gylch dieflig o dlodi parhaol sydd wedi hen ymwreiddio yn ein hardaloedd gwledig. Mae’r heriau yn cynnwys mynediad gwael i drafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus anghyson, diffyg tai fforddiadwy, ac incwm cymharol isel a phrisiau uchel. Yn anffodus, mae’r argyfwng costau byw dros y misoedd diwethaf wedi gwaethygu’r ffactorau hyn, ac wedi taflu nifer o aelwydydd i mewn i galedi ariannol ac ansicrwydd pellach.”
Canfu ymchwil flaenorol gan Sefydliad Joseph Rowntree fod y mwyafrif o aelwydydd gwledig fel arfer yn gwario 10-20% yn fwy ar nwyddau a gwasanaethau bob dydd o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy trefol. Atgyfnerthwyd fath duedd ymhellach mewn ymchwil diweddar gan yr elusen Sustrans, a nododd fod tlodi trafnidiaeth ar ei fwyaf nodedig ymysg ardaloedd o Gymru wledig – gyda aelwydydd yn gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gostau rhedeg car.
Pwysleisiwyd anghyfaraleddau ariannol o’r fath ymhellach gydag ymchwil gan Sefydliad Bevan, a gyhoeddwyd y llynedd, a ganfu fod cyflog gweithiwr arferol yn Sir Benfro £346 y mis yn îs na’r ffigwr cyfartalog cyffelyb ar gyfer y DU.
Wrth gydnabod y dystiolaeth sylweddol hyn, ychwanegodd Cefin Campbell AS:
“Mae’r caledi sy’n wynebu cymunedau gwledig Cymru yn agoriad llygad - ac mae’n ddigon posibl y bydd diffyg gweithredu i fynd i’r afael â math dlodi yn ein cymunedau cefn gwlad yn dod yn waddol i ddegawdau o reolaeth Llafur Cymru yng Nghymru.
Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i’r afael â’r ffactorau unigryw hyn cyfrannu at y tlodi gwledig hwn, a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau strategaeth a gweledigaeth i rymuso a chynorthwyo’r cymunedau hyn”.
Wrth ymateb i alwadau Mr Campbell am strategaeth tlodi wledig benodol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Dwi'n cydnabod bod yna ffactorau sy'n unigryw i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a gallaf gytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod. Ambell waith, mae'n anodd gweld tlodi mewn rhai cymunedau gwledig. Wrth gwrs, mae bob rhan o Gymru yn wynebu sialens ar hyn o bryd—pa un a'ch bod chi'n byw yn y Cymoedd, bod chi'n byw yng nghanol Caerdydd, mae sialensau unigryw i'w cael ym mhob man. Gallaf ddweud wrth yr Aelod y bydd cynllun yn dod lan. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio ar hyn o bryd ar bethau ymarferol y gallwn ni wneud i helpu, yn enwedig ym maes tlodi plant."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter