Dros 1,000 yn gwrthwynebu peilonau Dyffryn Tywi

Mae deiseb a lansiwyd ynghynt yr wythnos hon yn gwrthwynebu cynlluniau arfaethedig ar gyfer peilonau ar hyd Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin wedi ennill dros 1,000 o lofnodion. 

Mae’r ddeiseb, a drefnwyd gan Aelodau Senedd lleol Plaid Cymru Adam Price a Cefin Campbell, yn gwrthwynebu’r cynigion a amlinellwyd gan Bute Energy a all weld coridor o beilonau ar hyd y dyffryn - ac yn hytrach yn galw am osod y ceblau trydan o dan y ddaear. 

Yn gynharach eleni, ysgrifennodd y datblygwr ynni adnewyddadwy Bute Energy at dirfeddianwyr lleol yn Nyffryn Tywi yn amlinellu cynigion ar gyfer cysylltiad trydan 60 milltir 132Kv newydd o Barc Ynni Nant Mithil i’r dwyrain o Landrindod, i’r rhwydwaith trydan presennol rhwng Caerfyrddin a Phont Abraham. 

Mae'r cynigion, a allai weld peilonau 27 metr o uchder yn cael eu codi ar hyd y dyffryn, wedi achosi pryder yn lleol ynghylch yr effaith debygol ar harddwch naturiol a threftadaeth y dyffryn. Roedd dros 70 o drigolion yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanarthne fis diwethaf, yn ogystal â thorf sylweddol yn Llandeilo ar Nos Fercher 15fed o Chwefror, a chyfarfod pellach wedi ei drefnu gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn Llanymddyfri ar nos Gwener 17 Chwefror. 

Bu i Cefin Campbell AS godi pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig gyda Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Yn ei gwestiwn yn gynharach y mis hwn cyfeiriodd at alw cynyddol yn y gymuned leol i unrhyw ddatblygiad grid o'r fath gael ei gladdu o dan y ddaear. 

Wrth wneud sylw wrth i’r ddeiseb gyrraedd dros 1,000 o lofnodion, dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price AS

“Mae’r ffaith bod y ddeiseb hon wedi denu dros fil o lofnodion mewn mater o ychydig ddyddiau adlewyrchiad clir o gryfder y teimladau yn lleol o fewn Dyffryn Tywi tuag at gynlluniau o’r fath. 

Mae'r ddeiseb yn cydnabod yr angen i ddatblygu prosiectau adnewyddadwy gwyrdd, ond mae'n pwysleisio y dylid gwneud hyn mewn modd cytbwys - gan gydnabod anghenion a buddiannau ein cymunedau a'n hamgylchedd naturiol. Fel cynifer o rai eraill, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, os yw fath gynigion am gael eu gwireddu, rhaid blaenoriaethau gosod y ceblau o dan y ddaear ar hyd Dyffryn Tywi, yn hytrach na pheilonau.” 

Ychwanegodd Cefin Campbell AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: 

“Mewn ymateb i fy nghwestiwn yn y Senedd yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd. 

Mae’r ddeiseb hon yn adleisio’r safbwynt hwn a byddai’n helpu i sicrhau bod harddwch naturiol a threftadaeth Dyffryn Tywi yn cael eu diogelu.” 

Mae’r ddeiseb, sy’n galw am osod ceblau o dan y ddaear ar hyd Dyffryn Tywi, i’w gweld drwy ddilyn y ddolen isod: 

https://www.adamprice.wales/no_to_dyffryn_tywi_pylons_na_i_beilonau_dyffryn_tywi


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2023-02-23 13:27:14 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd