Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog i flaenoriaethu adfywio trefi gwledig.
Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog i flaenoriaethu adfywio trefi gwledig.
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth (02 Tachwedd) tynnodd Mr Campbell sylw at ddirywiad diweddar lawer o drefi a chymunedau gwledig, ac oblygiadau hyn ar genedlaethau’r dyfodol.
Canfu adroddiad diweddar gan Archwiliad Cymru fod penderfyniadau polisi'r gorffennol, newid mewn disgwyliadau cwsmeriaid a datblygiadau technolegol, bellach yn cael effaith andwyol ar lawer o ganol trefi Cymru. Tynnodd Mr Campbell sylw hefyd at effaith niweidiol pandemig Covid-19, ynghyd â Brexit, ar lawer o strydoedd mawr gwledig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae ffigurau Archwilio Cymru cyfredol yn dangos bod 1 o bob 7 siop ar strydoedd mawr Cymru yn wag, gyda Mr Campbell yn nodi bod llawer o drefi marchnad gwledig wedi wynebu anterth y dirywiad economaidd gyda llawer o fanciau, swyddfeydd post a gwasanaethau hanfodol eraill yn cefnu ar eu cymunedau, gan arwain at ddirywiad pellach.
Yng Nghymru, rhwng 2012 a 2020, gostyngodd nifer y canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu 28.8% gan ostwng o 695 i 495. Ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae llawer o drefi gan gynnwys Abergwaun ac Arberth, wedi eu gadael heb unrhyw fanc o gwbl.
Amlygodd Cefin Campbell MS, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig y tueddiadau pryderus a brofir ar lawer o strydoedd mawr ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan ddweud:
“Beth rŷn ni'n gweld yw darlun o ddirywiad yn ein prif trefi marchnad ni ar draws y rhanbarth: siopau, banciau, tafarndai a swyddfeydd post yn cau; canol ein trefi yn wag, footfall yn mynd yn llai; gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cwtogi, a nifer o fannau'n cael trafferth recriwtio meddygon teulu a deintyddion.”
Tynnodd Mr Campbell sylw hefyd at y dirywiad yn y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy mewn llawer o drefi gwledig - gan ei ddisgrifio fel “mwy o loteri na gwasanaeth”.
Gan alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu adfywio gwledig ar frys, tynnodd Mr Campbell sylw hefyd at yr effaith negyddol yr oedd canol trefi yn dirywio yn ei chael ar gyfleoedd i genedlaethau iau - gyda 60% o ymatebwyr i Adroddiad Ymchwil Ieuenctid Gwledig Cymru yn nodi eu bod yn ystyried symud i dref neu ddinas lle mae cyfleoedd cyflogaeth yn well.
Ymatebodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford gan amddiffyn record Llywodraeth Cymru - gan honni “rŷn ni yn rhoi blaenoriaeth i helpu trefi yng nghefn gwlad i ddod dros yr effaith o coronafeirws ac i wynebu'r heriau sydd i ddod. Rŷn ni'n defnyddio nifer o'r pwerau sydd gyda ni yn barod”.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter