Wrth siarad yn y Senedd, llongyfarchodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton ar ei fuddugoliaeth ddiweddar ym mhencampwriaeth Grand Prix y Byd.
Sicrhaodd Jonny Clayton, siaradwr Cymraeg o Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, fuddugoliaeth wefreiddiol o 5-1 yn erbyn ei gyd-Gymro, Gerwyn Price yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yng Nghaerlŷr ddydd Sadwrn. Gan ennill ei bencampwriaeth Grand Prix y Byd gyntaf, sicrhaodd Clayton ei drydydd teitl o’r flwyddyn - ar ôl ennill y Masters and Premier League. Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd sicrhau dyrchafiad i Clayton i 10 uchaf y Byd am y tro cyntaf.
Wrth siarad yn y Senedd yn ystod y Datganiad 90 Ail ddydd Mercher 13eg Hydref 2021, dywedodd Cefin Campbell:
“Mae Jonny, neu'r Ferret, fel mae'n cael ei alw, yn siaradwr Cymraeg ac yn byw ym Mhontyberem, ac mae trigolion y Bont, Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin a Chymru gyfan yn ymfalchïo yn fawr yn ei lwyddiant. Ond, yn rhyfeddol, er ei lwyddiant, mae'n parhau i weithio fel plastrwr yn rhan amser i Gyngor Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n deall ei fod e'n bwriadu parhau i wneud y gwaith yma am beth amser beth bynnag. Mae'n amlwg ei fod e'n gallu troi ei law at dipyn o bopeth.
Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno'n dda i Jonny Clayton, a Gerwyn Price hefyd, wrth gwrs, dros y flwyddyn nesaf wrth i'r tymor dartiau brysuro, a'i longyfarch ef eto ar ei lwyddiant dros y penwythnos.”
Ychwanegodd Liam Bowen, Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Bontyberem:
“Mae pawb ym Mhontyberem yn falch tu hwnt o lwyddiant Jonny ar y penwythnos. Dyma ei gyflawniad diweddaraf mewn blwyddyn llwyddiannus iawn iddo, ac fel cymuned rydym yn gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol iddo, ac yn ddiolchgar iddo am roi Pontyberem ar y map! ”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter