Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd rhanbarthol Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw am eglurder brys gan Lywodraeth Cymru yn dilyn pryderon y gallai darpariaeth ambiwlans yng Ngheredigion gael ei thorri.
Ar hyn o bryd mae pedair gorsaf ambiwlans wedi'u lleoli yng Ngheredigion, sydd â staff 24/7: mae gan Aberystwyth ac Aberteifi ddau griw'r un yn ystod y dydd ac un yn y nos, yn ogystal â Chei Newydd a Llanbedr Pont Steffan sydd gydag un criw'r un yn ystod y dydd ac un yn y nos.
Fodd bynnag, mae pryder cynyddol y gallai darpariaeth ambiwlans presennol gael ei thorri'n ôl i un yn Aberystwyth ac Aberteifi yn ystod y dydd, ac ni fyddai gwasanaeth Gofal Brys bellach yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau'r dydd yn ystod yr wythnos.
Wrth siarad yn y Senedd, amlygodd Cefin Campbell MS fath bryderon, gan alw ar y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS i adolygu’r sefyllfa ar frys.
Dywedodd Cefin Campbell MS:
“Ar adeg pan mai dim ond 48% o alwadau coch ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yr ymatebir iddynt o fewn 8 munud - yn hytrach na’r 65% gofynnol - mae cynigion gan Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i dorri’r ddarpariaeth ambiwlans bresennol yng Ngheredigion yn destun pryder mawr.
Er gwaethaf ymdrechion gorau gweithlu'r GIG a pharafeddygon ledled rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn anffodus rydym yn cael nifer o adroddiadau am unigolion yn aros oriau lawer am ymateb ambiwlans. Mae gostyngiad pellach yn y ddarpariaeth yng nghanol argyfwng iechyd yn debygol o achosi anhawsterau pellach , ac mae'n hanfodol bod unrhyw gynigion o'r fath yn cael eu hadolygu ar frys.”
Dywedodd Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion:
“Byddai newidiadau arfaethedig o’r fath i’r ddarpariaeth ambiwlans yng Ngheredigion yn cyfateb i ostyngiad o dros 30% yn yr ardaloedd Aberystwyth ac Aberteifi, sy’n debygol o gael canlyniadau difrifol ar amseroedd ymateb ambiwlans, llwyth gwaith staff, ac yn anochel bydd yn peryglu bywydau.
“Yr haf hwn yn unig, rwyf wedi gweld cynnydd nodedig yn nifer yr etholwyr sy'n cysylltu â'm swyddfa yn mynegi pryderon ynghylch oedi sylweddol am ambiwlans mewn cymunedau ledled Ceredigion, ac rwy'n ofni y byddai cynlluniau o'r fath ond yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach. "
Ychwanegodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion:
“Byddai unrhyw ostyngiad yn y ddarpariaeth ambiwlans yng Ngheredigion yn rhoi parafeddygon a staff y Gwasanaeth Ambiwlans dan fwy fyth o straen, ac yn codi pryderon difrifol y byddai gallu'r gwasanaeth i weithredu'n effeithiol yn y sir yn cael ei danseilio. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ar frys i sicrhau bod gofal ambiwlans a gofal brys ledled y sir yn cael ei ddiogelu.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter